SL(6)120 - Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 24) 2021

Cefndir a Diben

Mae Rhan 2A o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 (“Deddf 1984”) yn galluogi Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, i wneud darpariaeth at ddiben atal, diogelu rhag, rheoli neu ddarparu ymateb iechyd y cyhoedd i fynychder neu ledaeniad haint neu halogiad yng Nghymru.

Gwneir Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 24) 2021 (“y Rheoliadau”) drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 45C(1) a (3)(c) a 45F(2) o Ddeddf 1984 mewn ymateb i'r bygythiad i iechyd y cyhoedd a berir gan fynychder neu ledaeniad haint COVID-19.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (y “prif Reoliadau”), ac maent yn dod i rym o 12:00 ar 22 Rhagfyr 2021 mewn perthynas â gofynion ynysu sy'n ymwneud â chysylltiadau agos pobl sy'n profi’n bositif am y coronafeirws.           

Bydd y diwygiadau a wneir yn dychwelyd at y ddarpariaeth bresennol yn y ddeddfwriaeth sy'n eithrio cysylltiadau agos rhag hunanynysu ar yr amod eu bod yn bodloni un o'r meini prawf penodedig.

Mae'r prif Reoliadau bellach wedi'u diwygio fel a ganlyn:

·         Ni fydd rhaid i unrhyw gysylltiad agos, ni waeth pa amrywiolyn o’r coronafeirws sydd o dan sylw, hunanynysu:

o   os yw’n blentyn,

o   os yw wedi cwblhau cwrs o ddosau o frechlyn awdurdodedig o leiaf 14 o ddiwrnodau cyn y cysylltiad agos,

o   os yw’n cymryd rhan mewn treial clinigol yn y Deyrnas Unedig, neu

o   os yw’n cymryd rhan mewn cynllun profi.

·         Mae’r Rheoliadau hefyd yn darparu, pan fo person yn dod o fewn y categorïau hyn ond ei fod o dan ofyniad i ynysu, o ganlyniad i gael cysylltiad agos ag achos y gwyddys neu yr amheuir ei fod yn Omicron, yn union cyn dechrau’r diwrnod ar 22 Rhagfyr 2021, fod y gofyniad i ynysu’n dod i ben ar ddechrau’r diwrnod ar y dyddiad hwnnw.

 

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau i gynghori cysylltiadau sydd wedi’u heithrio i gymryd prawf llif unffordd bob dydd am 7 diwrnod. Bydd y gofyniad i gymryd profion llif unffordd o'r fath wedi'i gynnwys mewn canllawiau yn unig, ac ni fydd person dan rwymedigaeth gyfreithiol i gymryd profion o'r fath.

Y weithdrefn

Gwneud Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“Er bod y prif Reoliadau, fel y’u diwygir gan y Rheoliadau hyn, yn cyffwrdd â hawliau unigol o dan Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, mae’r Llywodraeth o’r farn bod modd eu cyfiawnhau er mwyn atal lledaeniad clefydau heintus a/neu fod hawl i wneud yr ymyriad ar y sail ei fod yn ceisio cyflawni nod dilys, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur.

Mae Erthygl 5 (yr hawl i ryddid), Erthygl 8 (yr hawl i barch at fywyd preifat a theuluol), Erthygl 9 (rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd), Erthygl 11 (rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu) ac Erthygl 1 o’r Protocol Cyntaf (diogelu eiddo) yn cael eu cyffwrdd gan y prif Reoliadau.

Mae pob un o’r rhain yn hawliau amodol, sy’n caniatáu i Weinidogion Cymru ymyrryd ag arfer yr hawliau os oes angen gwneud hynny mewn cymdeithas ddemocrataidd er budd diogelwch y cyhoedd neu er mwyn diogelu iechyd.  Rhaid cyfiawnhau’r holl gyfyngiadau a gofynion o’r fath ar y sail mai eu bwriad yw cyflawni nod cyfreithlon, sef diogelu iechyd y cyhoedd, a’u bod yn gymesur. Hefyd, mae angen cydbwyso unrhyw ymyrraeth â’r hawliau hyn â rhwymedigaethau cadarnhaol y Wladwriaeth o dan

Erthygl 2 (yr hawl i fywyd). Mae addasu’r cyfyngiadau a’r gofynion o dan y prif Reoliadau drwy’r Rheoliadau hyn yn ymateb cymesur i ledaeniad y coronafeirws.  Mae'n cydbwyso'r angen i gynnal ymateb priodol i'r bygythiad a berir gan y coronafeirws yn erbyn hawliau unigolion a busnesau, mewn modd sy'n parhau'n gymesur â'r angen i leihau cyfradd trosglwyddo'r coronafeirws, gan ystyried y dystiolaeth wyddonol.”

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nodwn na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y Rheoliadau hyn. Yn benodol, nodwn y paragraff a ganlyn yn y Memorandwm Esboniadol:

“O ystyried y bygythiad difrifol ac uniongyrchol sy’n deillio o’r coronafeirws a’r angen am ymateb iechyd cyhoeddus ar fyrder, nid oes ymgynghoriad cyhoeddus wedi’i gynnal mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. Serch hynny, ymgysylltwyd â rhanddeiliaid amrywiol gan gynnwys Is-adran Cydraddoldebau Llywodraeth Cymru.”

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Nodwn y torrir y rheol 21 diwrnod (h.y. y rheol y dylai 21 diwrnod fod rhwng y dyddiad y gosodir offeryn “gwneud negyddol” gerbron y Senedd a'r dyddiad y daw'r offeryn i rym), a'r esboniad am dorri’r rheol, a ddarparwyd gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog, mewn llythyr at y Llywydd, dyddiedig 21 Rhagfyr 2021.

Yn benodol, nodwn y canlynol yn y llythyr:

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 (“y prif Reoliadau”). Daw’r Rheoliadau i rym ar 22 Rhagfyr 2021, lai na 21 diwrnod ar ôl eu gosod.

Trwy beidio â chydymffurfio â’r confensiwn 21 diwrnod a dod â’r Rheoliadau i rym cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd, bydd modd hefyd i’r Rheoliadau ddod i rym cyn gynted ag y bo modd er mwyn a. lliniaru effeithiau absenoldebau estynedig staff ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol yng Nghymru; b. cysoni’r sefyllfa yng Nghymru â’r sefyllfa a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU er mwyn lliniaru unrhyw drafferthion neu ddryswch ar y ffin; c. symleiddio ein rheolau hunanynysu i gynorthwyo negeseuon cyhoeddus a chynorthwyo cydymffurfiaeth.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

5 Ionawr 2022